Cynlluniau i Gydweithio
Os bwriedir i addysg wyddonol cyfrwng Cymraeg gael lle amlycach ym Mhrifysgolion Cymru, dylai Mathemateg fod ar flaen y gad. Mae myfyrwyr gwyddoniaeth mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn llawer tebycach o gael eu haddysg 6ed dosbarth mewn Mathemateg drwy’r Gymraeg nag mewn Bioleg, Cemeg neu Ffiseg drwy’r Gymraeg.
Cyflawnir hynny’n rhannol drwy gysylltu’n agosach â’r Ysgolion - cysylltiad a feithrinir gan y sefydliad newydd, Sefydliad Gwyddorau Mathemategol a Chyfrifiannol Cymru (WIMCS), y mae Caerdydd yn bartner mwyaf ynddo. Y partneriaid eraill yw Aberystwyth, Abertawe, Bangor a Morgannwg. Briff y Sefydliad hwnnw, a arweinir gan ymchwil, fydd estyn-allan ac addysgu. Mae’r gwyddorau mathemategol yn rhan annatod o’r gyfundrefn addysg. Mae ymchwil ac addysgu’n mynd law yn llaw; byddai gwahanu’r ddau yn amharu cryn dipyn ar fywiogrwydd y ddisgyblaeth. Nod sydd gan y Sefydliad yw cynyddu’r rhyngweithio rhwng y prifysgolion a’r ysgolion i helpu i fywiogi’r astudio ar y gwyddorau mathemategol a chyfrifiannol ymhlith eu myfyrwyr.
Mae nifer fawr o destunau Mathemateg a addysgir i fyfyrwyr blwyddyn-gyntaf mewn prifysgol yn gyffredin i sefydliadau addysg uwch. Gellid defnyddio Addysg a Gyfoethogir â Thechnoleg, megis technoleg y Grid Mynediad, i addysgu’r modiwlau ar draws Sefydliadau yng Nghymru a bydd yr holl adnoddau a ddatblygir ar gael ar y Porth i’r holl sefydliadau addysg uwch perthnasol yng Nghymru eu defnyddio.
Bydd yr Ysgol yn cydweithio ag Aberystwyth ac Abertawe i sefydlu a chynnal fforwm i staff addysgu cyfrwng Cymraeg, darlith Gymraeg genedlaethol i fyfyrwyr Blwyddyn 1 a myfyrwyr Safon Uwch, cwrs/modiwl ar y cyd dros dridiau mewn canolfan breswyl fel Gregynog, a sefydlu bwrdd ymgynghorol o ddarlithwyr mathemateg.