Skip to content
Skip to navigation menu

Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

Staff sy’n medru’r Gymraeg:

Mathew Pugh, Darlithydd Cyfrwng Cymraeg
David E Evans, Cydlynydd Cyfrwng Cymraeg
Russell Davies, Pennaeth yr Ysgol
Dafydd Evans, Darlithydd

Mae Prifysgol Caerdydd yn fawr ei chefnogaeth i ddatblygu’r ddarpariaeth addysgol cyfrwng Cymraeg o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ddiweddar, fe adolygwyd y cynlluniau cenedlaethol i ddatblygu’r pwnc. Mae gan Brifysgol Caerdydd y nifer fwyaf o fyfyrwyr iaith Gymraeg yng Nghymru, a bwriadwn ddefnyddio’r ymarfer hwnnw’n llwyfan i ddatblygu darpariaeth ein sefydliad mewn ffordd ganolbwyntiedig a strategol a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i gydweithio.

Cynhelir dosbarthiadau tiwtorial yn yr Ysgol Fathemateg ar gyfer mwyafrif y modiwlau yn y flwyddyn gyntaf, gan gynnwys Algebra a Chalcwlws yn y tymor gyntaf.

Mae yna hefyd nifer o adnoddau Mathemateg ar gael ar gyfer modiwlau craidd.

Cynhelir modiwl newydd ym mlwyddyn tri i geisio denu myfyrwyr i addysgu Mathemateg - modiwl a gâi ei gynnig drwy’r Gymraeg ac un a fyddai’n unigryw i Brifysgol Caerdydd.

 

Manylion Cyswllt

Dr Mathew Pugh

Rhif ffôn: +44 (0)29 208 76862

 

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Related Links

Cardiff University Links